Croeso

Roedd DG: Undeb sy’n Newid yn brosiect ymchwil ac ymgysylltu dros dair blynedd a gynhaliwyd gan bartneriaeth oedd yn cynnwys Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, y Sefydliad Materion Cymreig a Chymru Yfory. Cyllidwyd y prosiect gan Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree a Sefydliad Nuffield.


Dechreuodd y prosiect ei waith ym mis Ionawr 2012 mewn ymateb i drefniant datganoli Cymru. Roedd dau nod: (1) sicrhau bod cymdeithas sifil yng Nghymru’n gallu cyfrannu at y drafodaeth am ddyfodol cyfansoddiadol y wlad, a, (2) cyfrannu at oresgyn natur ddigyswllt yr amrywiol drafodaethau ar faterion tiriogaethol-cyfansoddiadol a dyfodol yr undeb ym mhedair gwlad y DG. Daethom â rhai o’r cyfranogwyr allweddol y trafodaethau hynny at ei gilydd mewn fformat oedd yn annog cyd-ddysgu a chyd-ddealltwriaeth.

Trefnwyd gwaith y prosiect yn dair prif ffrwd:

Fforwm yr Undeb sy’n Newid: Bwriad y ffrwd hon oedd cyfoethogi’r drafodaeth ledled y DU ar y cyfansoddiad drwy dynnu ffurfwyr barn at ei gilydd i drafod a dadlau themâu allweddol yn y maes cyfansoddiadol, a chydberthynas y trafodaethau ym mhob gwlad.

Ymgysylltu â’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk): Bwriad y ffrwd hon oedd cynyddu faint o wybodaeth oedd ar gael ar faterion cyfansoddiadol allweddol yng Nghymru, yn ogystal â gwella’i hansawdd, ac ymchwilio i feysydd polisi lle mae amwysedd y trefniant datganoli yng Nghymru wedi gweithredu fel rhwystr i atal grwpiau diddordeb ac eraill o fewn y gymdeithas sifil rhag ymgysylltu’n effeithiol â’r broses polisi. Yr ymchwil a’r adroddiadau a gomisiynwyd dan y ffrwd hon oedd sail y dystiolaeth ar gyfer cyflwyniadau’r prosiect i’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru.

Annog cyfranogiad a thrafodaeth ehangach:  Bwriad y ffrwd hon oedd ehangu cyfranogiad mewn trafodaethau am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a’r DG drwy alluogi cymdeithas sifil i gael gwell dealltwriaeth am faterion cyfansoddiadol yn ogystal â chyfranogi mewn trafodaethau am y materion hyn. Elfen allweddol o’r ffrwd hon oedd menter Ein Dyfodol sydd wedi cynnwys pobl ifanc o Gymru a ledled y DG mewn trafodaethau am yr undeb sy’n newid.

Yn ogystal â’r gweithgareddau craidd hyn, cyfrannodd y prosiect hefyd at drafodaethau am ansawdd democratiaeth yng Nghymru a’r DG ar ôl datganoli drwy gynhyrchu neu gomisiynu gwaith ar y canlynol:

  • Maint Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Y gwasanaeth sifil yng Nghymru ar ôl datganoli
  • Gwella’r berthynas rhwng llywodraethau yn y DG

Rydym ni hefyd wedi llunio Datganiad Cloi ar gyfer y prosiectau sy’n tynnu ar dair blynedd o waith manwl ac adfyfyrio er mwyn cynnig awgrymiadau pendant ar gyfer cyfeiriad y trafodaethau yn y dyfodol ar ddyfodol Cymru a’r Undeb sy’n Newid yn fwy eang.

Ceir copïau o’n holl gyhoeddiadau a manylion am ein gweithgareddau mewn mannau eraill ar y wefan hon.

* * *

Roedd Pwyllgor Llywio’n goruchwylio’r prosiect dan gadeiryddiaeth yr Athro Richard Wyn Jones. Roedd y pwyllgor hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r cyrff partner yn ogystal â chadeirydd menter Ein Dyfodol.