Ein Dyfodol

Roedd y prosiect yn gryf iawn o’r farn ei bod yn hanfodol bod pobl ifanc yn cael llais yn y trafodaethau ar ffurf democratiaeth yn y dyfodol yng Nghymru a’r DG. Nod allweddol felly oedd cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu eu syniadau, cyfrannu i’r drafodaeth a dylanwadu ar benderfyniadau.

Mae’r prosiect yn arbennig o falch o lwyddiant Ein Dyfodol, menter dan arweiniad grŵp o bobl ifanc broffesiynol yng Nghymru, oedd yn hwyluso cyfranogiad mewn trafodaethau cyfansoddiadol. Ar ôl cyfres o ddigwyddiadau a mentrau yng Nghymru, a chydweithio gyda Senedd Ieuenctid y DG, penllanw gwaith Ein Dyfodol oedd trefnu a chynnal Confensiwn Cyfansoddiadol cyntaf erioed y DG i Bobl Ifanc yng Nghaerdydd ym mis Medi 2014. Roedd hwn yn ddigwyddiad a ddenodd gynrychiolwyr o bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol ac a gafodd sylw ar y teledu yng Nghymru.

Ceir rhestr lawn o gyhoeddiadau Ein Dyfodol dan y tab Papurau a Chyhoeddiadau