Papurau

Datganiad Cloi

Ar ôl tair blynedd o ddadansoddi a thrafod dwys sydd wedi rhychwantu pedair gwlad y DG, hoffai’r prosiect gyflwyno’r myfyrdodau canlynol sy’n edrych ar ddyfodol yr Undeb sy’n newid a safle Cymru oddi mewn iddi.
Datganiad Cloi y DG: Undeb sy’n Newid


Papurau Fforwm DG: Undeb sy’n Newid

Bwriad y Fforwm ar yr Undeb sy’n Newid oedd annog trafodaeth wybodus am y DG: Undeb sy’n Newid drwy dynnu ffurfwyr barn o bob un o’r pedwar tiriogaeth at ei gilydd i drafod a dadlau themau allweddol yn ymwneud â’r cyfansoddiad. Cyfarfu’r Fforwm dwywaith y flwyddyn am dair blynedd ar fformat Chatham House.
Paratowyd papur cyn pob cyfarfod Fforwm yn nodi’r materion allweddol. Hefyd lluniwyd adroddiad yn crynhoi’r drafodaeth ddilynol a’i ddosbarthu i gyfranogwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae’r holl bapurau rhagbaratoawl a’r adroddiadau ar gael isod:

Fforwm 1: A federal future for the UK?
Papur Trafod
Adroddiad ar y Drafodaeth

Fforwm 2: Public finance in a changing union
Papur Trafod
Adroddiad ar y Drafodaeth

Fforwm 3: The social union
Papur Trafod
Adroddiad ar y Drafodaeth

Fforwm 4: The English question
Papur Trafod
Adroddiad ar y Drafodaeth

Fforwm 5: The Centre and intergovernmental relations
Papur Trafod
Adroddiad ar y Drafodaeth

Fforwm 6: Where next for the UK’s Changing Union?
Nid oedd papur trafod ar gyfer y Fforwm hwn
Adroddiad ar y Drafodaeth


Tystiolaeth i’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

Roedd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (a adwaenwyd hefyd fel Comisiwn Silk) yn gomisiwn annibynnol a sefydlwyd, gyda chefnogaeth hollbleidiol, gan Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Cheryl Gillan, ar 11 Hydref 2011. Cyfarfu’r Comisiwn am y tro cyntaf ar 4 Tachwedd 2011 a chwblhaodd ei waith ym mis Mawrth 2014. Rhannwyd cylch gorchwyl y Comisiwn yn ddwy ran:

  • Adolygu’r achos dros ddatganoli pwerau cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac argymell pecyn o bwerau a fyddai’n gwella atebolrwydd ariannol y Cynulliad, sy’n cyd-fynd ag amcanion ariannol y Deyrnas Unedig ac sy’n debygol o gael eu cefnogi’n eang.
  • Adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar sail profiad ac argymell diwygiadau i’r setliad cyfansoddiadol presennol a fyddai’n galluogi Senedd y Deyrnas Unedig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i wasanaethu pobl Cymru’n well.

Cyhoeddodd ei adroddiad mewn dwy ran.

Cyflwynodd y prosiect ddau ddarn o dystiolaeth yn canolbwyntio ar ran gyntaf gwaith y Comisiwn, ac un prif gyflwyniad yn canolbwyntio ar ail ran y cylch gorchwyl. Yn ogystal, comisiynodd a/neu lluniodd y prosiect nifer o bapurau eraill yn berthnasol i waith y Comisiwn. Mae copïau o’r rhain i gyd ar gael yma:

Prif Gyflwyniadau
UKCU submission to Part One of the Commission Devolution in Wales (1)
UKCU submission to Part One of the Commission Devolution in Wales (2)
UKCU submission to Part Two of the Commission Devolution in Wales

Cyflwyniadau Ychwanegol
UKCU submission on Policing to Part Two of the Commission on Devolution in Wales
UKCU submission on Devolution and the Media to Part Two of the Commission on Devolution in Wales
UKCU submission on the Capacity of the Civil Service to Part Two of the Commission on Devolution in Wales
UKCU submission on Energy to Part Two of the Commission on Devolution in Wales

Setliad sefydlog, cynaliadwy i Gymru: Casgliad o bapurau ymchwil

Er mwyn llywio ei gyflwyniadau ei hun i Gomisiwn Silk, yn ogystal ag annog trafodaeth a chyfranogiad ym mhroses Silk ar draws y gymdeithas sifil yn ehangach, comisiynodd y prosiect nifer o arbenigwyr i lunio papurau ar bynciau perthnasol gwahanol. Mae’r papurau unigol yn ogystal â’r casgliad cyflawn ar gael yma:

The Capacity of the National Assembly: Michael Cole, Laura McAllister and Diana Stirbu
Policy Making Capacity of the Political Parties in Wales: Anwen Elias
The Capacity of the Civil Service in Wales: Anna Nicholl
Energy Policy and Powers: Stevie Upton
The Powers Wales Needs to Develop an Integrated Transport Policy: Stuart Cole
Policing Powers: Colin Rogers and James Gravelle
Wales and the Welfare Agenda: Victoria Winckler
The European Influence in Wales: Francesca Dickson
Devolution and the Media: IWA Media Policy Group
The Scrutiny Capacity of Civil Society in Wales: Rebecca Rumbul

A Stable, Sustainable Settlement for Wales: A full collection of UKCU Research Papers

Cyhoeddiadau’r Dyfodol

Lluniodd prosiect Ein Dyfodol nifer o adroddiadau’n canolbwyntio ar y modd mae pobl ifanc yn ymwneud â’r broses ddatganoli yng Nghymru yn ogystal ag adroddiad ar Gonfensiwn Cyfansoddiadol y DG i Bobl Ifanc a drefnwyd ganddo. Mae’r adroddiadau hyn i’w gweld yma:

Our Future Submission to the Second Part of the Commission on Devolution in Wales
Young People, Employment and Devolution
Attitudes of Young People Towards Devolution in Wales
Our Future’s Young People’s UK Constitutional Convention Report

Mae Maint yn Cyfrif

Gan weithio mewn partneriaeth gydag Electoral Reform Society Cymru, lluniodd y DG: Undeb sy’n Newid adroddiad dylanwadol ar yr oblygiadau o ran ansawdd democratiaeth Cymru yn sgil maint cymharol fach Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  Roedd yr adroddiad yn argymell cynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad i 100. Mae’r papur i’w weld isod:

Mae Maint yn Cyfrif

Y Berthynas rhwng Llywodraethau

Cydnabyddir yn eang fod trefniadau’r DG ar gyfer rheoli unrhyw gydlynu rhwng llywodraethau’n ddiffygiol. Mae’r trefniadau cyfredol yn ddigyswllt ac yn aml yn fympwyol. Comisiynodd y DG: Undeb sy’n Newid Alan Trench i lunio papur yn asesu’r sefyllfa gyfredol ac argymell cyfres o ddiwygiadau i wella cysylltiadau rhyng-lywodraethol yn y DG ar ôl datganoli. Gellir gweld y papur llawn isod:

Intergovernmental Relations and Better Devolution

Cyflwyniadau eraill

Manteisiodd y prosiect hefyd ar gyfleoedd i wneud nifer o gyflwyniadau eraill

UK’s Changing Union submission to the House of Commons Welsh Affairs Select Committee Inquiry April 2014
UK’s Changing Union submission to the UK Government’s consultation the devolution of Stamp Duty Land Tax to Wales