Gweithgareddau

Creodd y prosiect weithgarwch sylweddol dan dri phrif bennawd:

Fforwm yr Undeb sy’n Newid

Cynhaliwyd chwe Fforwm yn canolbwyntio ar y pynciau canlynol:

  • cyllid mewn undeb sy’n newid
  • cwestiwn Lloegr
  • ffederaliaeth
  • yr undeb gymdeithasol
  • cysylltiadau rhynglywodraethol
  • dyfodol y Deyrnas Gyfunol ar ôl refferendwm yr Alban.

Cyfanswm y nifer a ddaeth i’r chwe Fforwm oedd 117. Roedd y rhain yn cynnwys gwleidyddion, uwch weision sifil, newyddiadurwyr ac academyddion o’r pedair gwlad. Cynhaliwyd y Fforymau dan Reol Chatham House. Cyn pob Fforwm paratowyd papurau trafod yn nodi’r materion allweddol. Lluniwyd adroddiadau ar bob Fforwm a’u dosbarthu i’r cyfranogwyr a’r rhanddeiliaid.

 

Ymgysylltu â Chomisiwn Silk

Gan gyd-fynd â’n hamcanion gwreiddiol, aethom ati i gynnal a chwblhau ymchwil eang drwy dri gweithgor. Cafodd y dystiolaeth a gynhyrchwyd gan ein Gweithgor ar Gyllid ddylanwad eang ar adroddiad cyntaf y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru oedd yn canolbwyntio ar bwerau a chyfrifoldebau ariannol y Cynulliad Cenedlaethol. Bellach mae’r argymhellion hyn i raddau helaeth wedi cyrraedd y statud drwy Ddeddf Cymru 2014.

Rydym ni’n credu bod ein dylanwad wedi chwarae rhan fawr yng nghyd-destun y drafodaeth ynghylch datganoli Treth Dir y Dreth Stamp. Roedd adroddiad ymgynghori ôl-Silk Llywodraeth y DG yn caniatáu digon o amser i gynnull a bywiogi cyswllt â’r gymdeithas sifil yn ehangach, ac roedd hyn yn ei dro yn gymorth i berswadio Llywodraeth y DG bod achos dros ddatganoli.

Roedd yr amserlenni hirach ar gyfer Rhan 2 Proses Silk yn caniatáu i ni sicrhau bod yr ymchwil a wnaed gan ein Gweithgorau ar Bwerau ac Awdurdodaeth Gyfreithiol yn cael ei ledaenu a’i drafod yn y gymdeithas sifil cyn ac ar ôl i ni wneud ein cyflwyniad cyntaf i’r Comisiwn (ynghyd â 19 o bapurau atodol, a thystiolaeth lafar i ddilyn). O ganlyniad, roedd nifer sylweddol o gyfraniadau gan gyrff cymdeithas sifil eraill yn cyfeirio at ac/neu yn adlewyrchu dylanwad y prosiect. Yn fwyaf nodedig, mae ein hargymhelliad canolog, sef bod Cymru’n symud i fodel datganoli ar ffurf ‘pwerau cadw’ wedi derbyn cefnogaeth eang, gyda chlymblaid yn cynnwys o ddeutu 30 o gyrff cymdeithas sifil yn uno i’w gefnogi ac annog y cyfryw ddiwygiad.

Mae’n dyst i safon ein hymchwil a grym perswâd ein hargymhellion bod adroddiad terfynol Rhan 2 Comisiwn Silk yn cyfeirio dros 50 o weithiau at ein cyflwyniad ac mae ei argymhellion yn debyg iawn i’n rhai ni. Gwerth nodi hefyd bod y prif bleidiau gwleidyddol i gyd bellach wedi derbyn yr achos o blaid ‘model pwerau cadw’, ac yn addunedu wrth ddechrau ymgyrch etholiad cyffredinol arfaethedig y DG i ddeddfu ar y diwygiad sylfaenol hwn yn y senedd nesaf, fel yr amlinellwyd yn y Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi yn ddiweddar.

Mae’n bwysig nodi i ni beidio â chaniatáu i’n hunain gael ein cyfyngu gan y cylch gorchwyl a roddwyd i Gomisiwn Silk. Yn benodol, roedd y prosiect yn gosod cwestiwn yn ymwneud â maint y Cynulliad Cenedlaethol yn gadarn ar yr agenda gwleidyddol drwy gynnal a chyhoeddi (ar y cyd â’r Electoral Reform Society) y darn cyntaf o ymchwil yn ymwneud â goblygiadau maint bychan deddfwriaeth Cymru i ddemocratiaeth.

Gyda chyhoeddi Mae Maint yn Cyfrif, sbardunwyd trafodaeth eang ymhlith y cyhoedd a gwleidyddion ac ar draws cymdeithas sifil. Yn ystod y drafodaeth hon gwelsom newid penodol yn natur y drafodaeth, gyda’n hachos democrataidd dros ehangu’r Cynulliad yn cael ei dderbyn yn eang iawn ac ystyriaeth ddifrifol yn cael ei rhoi i’n hargymhelliad i gael deddfwrfa ag iddi 100 o aelodau. Er gwaethaf y ffaith nad oedd cylch gorchwyl Silk yn caniatáu trafod maint y Cynulliad, roedd ail adroddiad Comisiwn Silk serch hynny’n argymell y dylid ehangu’r Cynulliad i ‘o leiaf 80 o aelodau’.

Ym mis Ionawr 2015 cyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad (sy’n gyfrifol am weithrediad y Cynulliad Cenedlaethol) ei adroddiad ei hun yn argymell ehangu’r Cynulliad gan adleisio llawer o’r dadleuon a welwyd yn wreiddiol yn Mae Maint yn Cyfrif. Roedd y comisiwn hefyd yn cydnabod mai’r ‘nifer cywir’ o ACau oedd rhywle rhwng 80 a 100. Mae’n ymddangos bellach y bydd maniffestos yr holl brif bleidiau yn etholiad cyffredinol arfaethedig y DG yn argymell y dylid datganoli pwerau dros drefniadaeth etholiadol a maint y Cynulliad, er mwyn caniatáu ehangu yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.

 

Annog cyfranogiad a thrafodaeth ehangach

Rydym ni wedi buddsoddi amser ac egni sylweddol yn annog trafodaeth wybodus yng Nghymru (a thu hwnt) ar y materion cyfansoddiadol sy’n codi yng nghyd-destun datganoli. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys llawer o elfennau gwahanol gan gynnwys:

  • seminarau a thrafodaethau ar ran nifer o gyrff cymdeithas sifil (e.e. UCMC, Cyswllt Amgylchedd Cymru, TUC Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru)
  • trafodaethau cyhoeddus mewn digwyddiadau poblogaidd fel Gŵyl Lenyddol y Gelli a’r Eisteddfod Genedlaethol
  • (drwy’r Sefydliad Materion Cymreig) trafodaeth ar-lein gan arbenigwyr/ymarferwyr ar ddatganoli plismona
  • cynadleddau niferus gyda siaradwyr yn cynnwys Prif Weinidog Cymru, cyn Brif Weinidog yr Alban
  • cyfarfodydd ymylol ym mhob un o gynadleddau’r pedair prif blaid yng Nghymru (gyda siaradwyr yn cynnwys Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander; arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Ruth Davidson; Ysgrifennydd Gwladol Cymru’r Wrthblaid, Owen Smith; a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones)
  • anerchiadau i Aelodau Cynulliad a’u staff gan ‘academyddion datganoli’ blaenllaw fel yr Athro James Mitchell, yr Athro Michael Kenny a’r Athro Nicola McEwen,
  • darparu gwasanaeth Ysgrifenyddiaeth i grwpiau hollbleidiol ar Ddatganoli a’r Undeb sy’n Newid yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn Senedd y DG
  • seminar arbenigol (gyda chyfranogiad gan lywodraeth ganol y DG ac adrannau rhanbarthol yn ogystal â’r holl lywodraethau datganoledig) ar wella Cysylltiadau Rhyng-lywodraethol, ar sail papur a gomisiynwyd gan Alan Trench.

 

Mae tair elfen o’n hymdrechion i annog cyfranogiad a thrafodaeth yn haeddu sylw penodol:

  • i) Our Future/Ein Dyfodol: Rydym ni’n arbennig o falch o lwyddiant menter ieuenctid ein prosiect, Ein Dyfodol, sydd wedi annog pobl ifanc broffesiynol yng Nghymru a thu hwnt i gyfranogi mewn trafodaethau cyfansoddiadol, a hynny am y tro cyntaf mewn sawl achos. Ar ôl cyfres o ddigwyddiadau a mentrau yng Nghymru, a chydweithio gyda Senedd Ieuenctid y DG, penllanw gwaith Ein Dyfodol oedd trefnu a chynnal Confensiwn Cyfansoddiadol cyntaf erioed y DG i Bobl Ifanc yng Nghaerdydd ym mis Medi 2014, digwyddiad a ddenodd gynrychiolwyr o bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol ac a gafodd sylw ar y teledu yng Nghymru.

  • ii) Confensiwn Cyfansoddiadol gyda Chymorth Torfol y Sefydliad Materion Cymreig: Yng ngoleuni galwadau rheolaidd am Gonfensiwn Cyfansoddiadol i’r DG (gan wleidyddion o Gymru’n benodol) ac yn sgil refferendwm annibyniaeth yr Alban, Prosiect y DG: Undeb sy’n Newid yw prif gefnogwr Confensiwn Cyfansoddiadol ar-lein arloesol y Sefydliad Materion Cymreig (www.iwaconvention.co.uk). Fel prosiect rydym ni’n ystyried bod y Confensiwn hwn yn rhan o’n gwaddol gan ei fod yn sicrhau bod y momentwm a grëwyd gan ein gweithgareddau dros y tair blynedd diwethaf yn cael ei gynnal.

    iii) Datganiad Cloi: Elfen ffurfiol olaf y prosiect oedd llunio Datganiad Cloi yn adfyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd gan y prosiect (o drafodaethau’r Fforwm yn benodol) ynghylch dyfodol yr Undeb. Mae’n amlygu pedair egwyddor allweddol, a ddylai, yn ein barn ni, fod yn sylfaen i ba bynnag broses a gaiff ei sefydlu i bennu pensaernïaeth gyfansoddiadol y DG yn y dyfodol. Rydym ni’n ystyried bod y Datganiad yn rhan allweddol o waddol y prosiect.